menu 1
menu 2
menu 3
menu 4
menu 5
 
 
 
 
   
 
   
   

Cefndir y gwobrwyon

Datblygwyd gan gonsortiwm o sefydliadau proffesiynol, cyrff sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yn ogystal â chwmnïau preifat, nod y gwobrau yw cydnabod a dathlu llwyddiant personol eithriadol mewn arwain a rheoli yng Nghymru.

Mae’r sefydliadau o fewn y consortiwm yn rhannu’r gred daer a phroffesiynol mai arweinyddiaeth eithriadol (ym mhob sector) yw’r gyrrwr allweddol i dwf economi Cymru.

Mae’r beirniaid yn chwilio am enwebeion y mae eu harweinyddiaeth ysbrydoledig wedi cael effaith gadarnhaol o ran symud eu busnes neu sefydliad ymlaen, beth bynnag yw eu swyddogaeth neu gyfrifoldebau o fewn y cwmni. Os ydyn nhw naill ai’n wirfoddolwyr, gweithwyr craidd, rheolwyr neu swyddogion gweithredol, mae’r gwobrau’n ceisio cydnabod arweinyddion ar unrhyw lefel sydd wedi bod yn ysbrydoledig eu hagwedd, gan arwain at ganlyniadau cadarnhaol.

Gallwch enwebu’r ymgeisydd o’ch dewis ar-lein neu gallwch lawr lwytho ffurflen enwebu i’w chwblhau a’i dychwelyd atom ni trwy’r post, ffacs neu e-bost.

Aelodau Consortiwm Gwobrau Arwain Cymru yw:·

·Cymdeithas y Cyfrifyddion Siartredig Trwyddedig
·Ysgol Fusnes Caerdydd
·Sefydliad Rheolaeth Siartredig
·Common Purpose
·Dolmans Cyfreithwyr
·Hilton Caerdydd
·Llwybrau Dysgu Cymru
·Cyngor Rheolaeth Cymru

Mae BBC Radio Wales yn bartner darlledu i’r gwobrau.