menu 1
menu 2
menu 3
menu 4
menu 5
 
 
 
 
   
 
   
   
Gwneud enwebiad

Bydd enwebiadau’n agor ar 14 Medi 2006 ac yn cau ar 1 Rhagfyr 2006.

Mae enwebu yn hawdd. Mae gennych chi dri dewis – enwebu ar-lein (y dull gorau gennym ni), enwebiad Word ac enwebiadau pdf. Yn achos yr ail a’r trydydd gallwch eu hanfon trwy e-bost, ffacs neu trwy’r post (manylion isod). Darllenwch y wybodaeth gyffredinol isod yn enwebu os gwelwch yn dda.

Gofynnir i chi am y wybodaeth ganlynol...

1. Manylion cyswllt yr enwebai
2. Manylion cyswllt yr enwebydd
3. Disgrifiad o sefydliad yr enwebai (dim mwy na 30 gair) a nifer y gweithwyr
4. Sut maen nhw’n ysbrydoli eraill? (dim mwy na 250 gair)
5. Beth yw eu rhinweddau arweinyddol eraill? (dim mwy na 250 gair)
6. Beth mae eu harweinyddiaeth wedi ei gyflawni? (dim mwy na 250 gair)
7. Crynodeb: Credaf y dylai fy enwebai ennill y wobr hon oherwydd…. (dim mwy na 30 gair)
8. Y 3 gair sy’n crynhoi orau fy enwebai fel arweinydd yw... (3 gair)

Mae enwebu ar-lein yn syml – efallai y byddai’n well gennych chi baratoi rhywfaint o’r enwebiad ymlaen llaw gan ddefnyddio golygydd testun (text editor) a phastio i mewn i’r meysydd perthnasol. (Mae’n well osgoi pwyntiau bwled Word gan eu bod yn gallu achosi problemau wrth gael eu gludo i’r ffurflen ar-lein – defnyddiwch rifau wrth restru llwyddiannau).

Dechreuwch yma >>