menu 1
menu 2
menu 3
menu 4
menu 5
 
 
 
 
   
 
   
   
Mae busnesau gyda mwy na 250 o weithwyr yn cael ei noddi gan Paramount Office Interiors
 
“Mae arweinyddiaeth, yn fy marn i, i gyd yn fater o galfaneiddio tîm o chwaraewyr i berfformio hyd eithaf eu gallu, a chydnabod bob amser mai’r bobl yw gwir asedau unrhyw fusnes sydd eisiau symud yn ei flaen.”
Nigel Roberts,
Prif Weithredydd,
Paramount Office Interiors

Mae busnesau gyda llai na 250 o weithwyr yn cael ei noddi gan Business in Focus
 
“Arweinyddiaeth yw’r rhinwedd yr ydym ei angen i gael y gorau allan o’n gweithwyr, trwy ysbrydoli, cefnogi a rhoi’r hyder i bobl a fydd yn caniatáu iddyn nhw gyfranogi’n llawn yn natblygiad y cwmni.”
Gareth Bray,
Prif Weithredydd
Business in Focus


Mae sefydliadau gwirfoddol a di-elw yn cael ei noddi gan Legal and General
 
“Arweinydd yw rhywun sy’n ffyrnig o benderfynol ac wedi ymroi’n llwyr i ysbrydoli pobl eraill i weithredu i greu newid. Yma yn Legal & General, rydym yn falch o noddi Gwobrau Arwain Cymru oherwydd ein bod ni’n credu fod rhai o’n harweinyddion mwyaf ysbrydoledig yn cael eu meithrin mewn cymunedau a mentrau lleol.”
Jackie Quantock
Rheolydd Cyfathrebiadau Busnes
Legal & General


Mae Sefydliadau Sector Cyhoeddus gyda mwy na 250 o weithwyr yn cael eu noddi gan TSW
 
“Mae TSW yn cefnogi Gwobrau Arwain Cymru oherwydd ein bod ni’n credu’n daer fod arweinyddiaeth - ar draws sbectrwm gwleidyddiaeth, busnes a chymunedau - yn gwneud gwahaniaeth i’n perfformiad a’n llwyddiant fel gwlad fach, yn dod â syniadau mawr a chyflwyniadau mawr ar lwyfan y byd.”
Charles Middleton
Prif Weithredydd
TSW


Mae Sefydliadau Sector Cyhoeddus gyda llai na 250 o weithwyr yn cael eu noddi gan Public Service Management Wales (PSMW)
“Mae darparu’r cyfle i gydnabod a gwobrwyo arweinyddiaeth o’r radd flaenaf yn rhoi symbyliad ac yn arddangos gwerth i bawb o’r rhai hynny sy’n gweithio mor galed i gyrraedd y dyhead hwn. Mae’r cysylltiad rhwng dysgu ac arwain yn hanfodol o ran datblygu arweinyddion o safon fyd-eang ledled Cymru.”

Dr Neil Wooding, Cyfarwyddydd,
Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru

 
Mae Gwobrau’r Categori Arweinydd Tîm yn cael eu noddi gan Schaeffler (UK) Ltd
 
“Rwy’n credu, i fod yn arweinydd da, fod yn rhaid i chi gael y gwyleidd-dra i wrando ar eich gweithlu a’u syniadau ar gyfer gwella a chael y grym ewyllys a’r gred i yrru’r maen i’r wal gyda’r mentrau.”
Roger Evans
Cyfarwyddydd Gwaith
Schaeffler (UK) Ltd


Mae Arweinydd Ifanc (14 – 25 mlwydd oed) yn cael ei noddi gan Coleg Castell Nedd Port Talbot
 
“Mae’r Coleg yn falch iawn o allu noddi’r categori newydd Arweinydd Ifanc a fydd yn allweddol o ran annog ac ysbrydoli’n harweinyddion ifanc i’r dyfodol. Yng Ngholeg Castell Nedd Port Talbot rydyn ni’n rhannu’r gred fod yna arweinydd yn llechu oddi mewn i bawb, a hynny o oedran ifanc. Arweinyddiaeth yw casgliad o sgiliau y gellir eu cryfhau gyda’r ysbrydoliaeth, hyfforddiant, ymarfer ac adborth cywir.”
Mark Dacey
Pennaeth Coleg Castell Nedd Port Talbot

SaBRE Cymru yw’n noddwyr ar gyfer y Cinio a a’r Seremoni Wobwyo.

"Mae arweinyddiaeth yn helpu i wireddu gweledigaeth. Mae’n gofyn am broses meddwl clir, cyfathrebu effeithiol, penderfyniad ac yn anad dim, adeiladu tîm. Mae hyn yn fusnes craidd i’r Lluoedd Gwirfoddol Wrth Gefn a dyna’n cyfraniad ni i’r bartneriaeth gyda chyflogwyr."
Gerry Blythe
Cyfarwyddydd Ymgyrch SaBRE Cymru